

Croeso i Archifau Cymru. Bydd ein catalog ar-lein yn eich galluogi i gael gwybodaeth am dros 7,000 casgliad o gofnodion hanesyddol yn naliadau 21 o archifdai ar draws Cymru, a hynny mewn un chwiliad. Mae'r archifau hyn ar agor i'r cyhoedd a gallwch ddefnyddio'r safle hwn i gynllunio'ch ymweliad a chael mwy o wybodaeth. Mae Archifau Cymru'n ffurfio rhan o Rwydwaith Archifau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
Ymwelodd y cyfansoddwr Syr Edward Elgar â Llandrindod ac aros yng Ngwesty Gwalia. Gellir gweld ei lofnod yn llyfr ymwelwyr y gwesty a gedwir yn Amgueddfa Llandrindod.