Reference code(s): GB 0210 CYFANS
Held at:
Title: Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau, 1887-2000
Short title: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, cyfansoddiadau a beirniadaethau (compositions and adjudications)
Dates of creation: 1887-2000
Level of description: Fonds
Extent and medium: 2.70 metrau ciwbig (300 bocs, 7 cyfrol, 1 ffolder)
Name of creator(s):
Administrative and biographical history: Cyfeirir at yr Eisteddfod Genedlaethol fel 'prif ŵyl ddiwylliannol y Cymry' yn y Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1880 ac yn 1890 sefydlwyd Rheolau'r Gymdeithas. Cytunodd Cyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1922 i roi cartref i'r cyfansoddiadau a beirniadaethau a gynigiwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 1937 ffurfiwyd Cyngor yr Eisteddfod drwy uno Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn 1952 disodlwyd y Gymdeithas gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddwyd i gynnal eisteddfod bob blwyddyn ac eithrio 1914 a 1940 (Eisteddfod Radio). Cyflwynwyd cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn 1937, Tlws y Ddrama yn 1961 (daeth i ben yn 1993), Gwobr Goffa Daniel Owen yn 1978 a Thlws y Cerddor yn 1990. Bellach mae'r Orsedd hefyd yn rhan o seremoni'r Fedal Ryddiaith.
Scope and content: Cyfansoddiadau amrywiol a gyflwynwyd i gystadlaethau llenyddol a cherddorol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1887-2000. Yn eu plith ceir awdlau, pryddestau, cywyddau, baledi, straeon byrion, dramâu, cyfieithiadau o'r Saesneg ac ieithoedd eraill, gweithiau ar gyfer y Fedal Ryddiaith a Gwobr Daniel Owen, ynghyd ag emyn-donau a gosodiadau cerdd dant. Cyflwynwyd cystadlaethau i ieuenctid, i ddysgwyr ac i'r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes yn ddiweddarach a rhoddwyd cyfle i ddisgyblion ysgol ac oedolion gystadlu ym maes gwyddoniaeth. Erys cyfansoddiadau 2000- heb eu catalogio. = A variety of literary and musical compositions entered at National Eisteddfodau, 1887-2000 such as odes and poetry in free metre, ballads, short stories, plays, translations from English and other languages, Prose Medal and Daniel Owen Memorial Prize entries, together with musical compositions such as hymn-tunes and arrangements for the harp. Competitions for young people, Welsh learners and for those who had lived in Patagonia throughout their lives were later introduced and schoolchildren and adults could compete in science competitions. Literary compositions for 2000- remain uncatalogued.
Language/script: Cymraeg, Saesneg
System of arrangement: Trefnwyd yn bedwar grŵp yn y Llyfrgell: Eisteddfodau Cenedlaethol, 1887-1950; Cyfansoddiadau a beirniadaethau amrywiol, [1887x1950]; Eisteddfodau Cenedlaethol, 1951-1979 (gyda bylchau) ac Eisteddfodau Cenedlaethol, 1980-2000. O fewn y grwpiau, trefnwyd yn nhrefn amser yn ôl dyddiad yr eisteddfod. Defnyddiwyd Rhestri Testunau printiedig yr Eisteddfod Genedlaethol fel sail i'r trefniant.
Conditions governing access: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction: Amodau hawlfraint arferol.
Finding aids: Ceir copi caled o gatalog Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, 1886-1950, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Detailed catalogue
Appraisal, destruction and scheduling information: Cadwyd yr holl gyfansoddiadau cyn 1951 ond chwynnwyd dyblygion, 1951-2000. Cafwyd caniatâd i waredu'r copïau dyblyg mewn llythyr gan Drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Chwefror 2013. Mae awdurdod i ddinistrio'r papurau hyn yn Ffurflen Werthuso Adrannol AFE/2013/.
Accruals: Disgwylir ychwanegiadau.
Immediate source of acquisition: Adneuwyd gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ac yna gan Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur rhwng 1922 a 1950. Adneuwyd gan ysgrifenyddion a threfnyddion Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1951-2000.
Related units of description: Trosglwyddwyd tapiau sain yn cynnwys cystadlaethau cerddoriaeth, a gwaith gan ddysgwyr i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn LlGC.
Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's note: Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i lunio'r disgrifaid : LlGC, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau; Gildas Tibbott, 'National Eisteddfod Manuscripts', Cylchgrawn Llyfrgell Gendlaethol Cymru, Gaeaf 1941, Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997), William H. Howells, Mynegai Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1900-1990 (1992) a gwefan 'Canrif o Brifwyl' (BBC Cymru).
Rules or conventions: Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Date(s) of description: Chwefror 2013
Eisteddfod Genedlaethol Cymru | Archives
Welsh literature | 19th century