Reference code(s): GB 0210 CYGION
Held at: National Library of Wales
Title: Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Short title: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, papurau (papers)
Dates of creation: 1951-1993
Level of description: Fonds
Extent and medium: 0.569 metrau ciwbig (24 bocs)
Name of creator(s): Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
Administrative and biographical history: Mae Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf, yn grŵp cyhoeddi a leolir yn Aberystwyth, Ceredigion. Cyhoeddir llyfrau Cymraeg ganddynt yn bennaf, yn cynnwys llyfrau i blant a llyfrau o ddiddordeb lleol. Prynodd y cwmni Welsh Teldisc Ltd, c. 1974.
Scope and content: Papurau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion,1951-1993, yn cynnwys gohebiaeth, adroddiadau, copïau llawysgrif a theipysgrif, proflenni a phapurau eraill yn ymwneud â chyhoeddiadau penodol, 1954-1991; papurau gweinyddol yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion ac agendâu, adroddiadau blynyddol a ffigurau gwerthiant, 1951-1993; gohebiaeth gyffredinol gyda sefydliadau eraill, 1951-1993; ffeiliau yn ymwneud â Welsh Teldisc,1951-1992; a chofnodion ariannol, 1954-1991 = Papers of Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1951-1993, including correspondence, reports, manuscript and typescript copies, proofs and other papers relating to specific publications, 1954-1991; administrative papers including correspondence, minutes and agendas, annual reports and sales figures, 1951-1993; general correspondence with other organisations, 1951-1993; files relating to Welsh Teldisc, 1951-1992; and financial records, 1954-1991.
Language/script: Cymraeg
System of arrangement: Trefnwyd fel a ganlyn: gohebiaeth yn ymwneud â chyhoeddiadau; ffeiliau gweinyddol; gohebiaeth amrywiol; ariannol; ffeiliau amrywiol.
Conditions governing access: Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction: Amodau hawlfaint arferol.
Finding aids: Ceir copïau caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau, 1997, tt. 19-24, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Detailed catalogue
Appraisal, destruction and scheduling information: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals: Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Immediate source of acquisition: Rhodd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion, Bryn Awel, Stryd Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, trwy law Mr Dylan Williams, Rheolwr Cyffredinol, 1997.
Related units of description: Ceir papurau pellach yn ymwneud â Welsh Teldisc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Papurau Welsh Teldisc.
Note: Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's note: Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1997.
Rules or conventions: Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argrafiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Date(s) of description: Mehefin 2003
Cymdeithas Lyfrau Ceredigion | Archives
Publishers and publishing | Wales | Aberystwyth